Exodus 38

Yr allor i losgi aberthau

(Exodus 27:1-8)

1Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi'r aberthau. Gwnaeth hi o goed acasia, yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. 2Gwnaeth gyrn ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna ei gorchuddio gyda pres. 3Pres ddefnyddiodd i wneud yr offer i gyd hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân. 4Yna gwnaeth y gratin, sef rhwyll wifrog o bres o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. 5A gwnaeth bedair cylch i'w gosod ar bedair cornel y gratin, i roi'r polion trwyddyn nhw. 6Yna gwnaeth y polion allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres. 7Yna gwthiodd y polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r allor, i'w chario hi. Roedd yr allor yn wag y tu mewn, wedi ei gwneud gyda planciau o bren.

Gwneud y ddysgl fawr bres

(Exodus 30:18)

8Yna gwnaeth y ddysgl fawr bres a'i stand bres allan o ddrychau y gwragedd oedd yn gwasanaethu wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

Yr iard o gwmpas y Tabernacl

(Exodus 27:9-19)

9Yna gwnaeth yr iard. Roedd yr ochr ddeheuol yn bedwar deg pedwar metr o hyd, a'r llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. 10Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. 11A'r un fath ar yr ochr ogleddol. 12Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian. 13Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. 16Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. 17Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion.

18Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd – llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder, 19ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian. 20Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas wedi eu gwneud o bres.

Y metelau gafodd eu defnyddio

21Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith. 22Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses. 23Ac roedd Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Aholïab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch.

24Aur: 1,000 cilogram – dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd)
25Arian: bron 3,500 cilogram – dyma'r arian gafodd ei gyfrannu gan y bobl. 26Roedd hyn yn hanner sicl (bron yn chwe gram o arian) gan bawb dros ugain oed gafodd ei gyfrif – sef 603,550 o ddynion.

27Cafodd 3,300 cilogram o'r arian ei ddefnyddio i wneud y socedi i bolion y cysegr, a'r socedi i'r llen arbennig – cant o socedi yn dri deg tri cilogram yr un. 28Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion.

29Pres: bron 2,500 cilogram – (sef y pres gafodd ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd) 30Cafodd hwn ei ddefnyddio i wneud socedi i'r fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, yr allor bres, y gratin iddi, offer yr allor i gyd, 31y socedi o gwmpas yr iard, a'r socedi i'r fynedfa i'r iard, a hefyd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas.
Copyright information for CYM